Ymateb y Llywodraeth i adroddiad drafft y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Pwyntiau Craffu Technegol

Mae’r Pwyllgor wedi codi saith pwynt adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2.

(1) Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Mae rheoliad 29(a) yn hepgor rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 drwy gamgymeriad. Dylai rheoliad 29(a) hepgor rheoliad 3(20) o Reoliadau 2019 a bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gywiro hyn.  

(2) Darparu pwerau i ymafael mewn offer cyfrifiadurol a’i gadw

Bwriad y ddarpariaeth hon yw galluogi swyddog gorfodi i ymafael mewn offer cyfrifiadurol pan na fo modd archwilio’r data ar y safle, er enghraifft, am na ellir cael ato heb offer neu bersonél mwy arbenigol neu oherwydd cyfyngiadau amser.  

 

(3) Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt adrodd hwn ond nid yw’n bwriadu cymryd camau pellach gan fod y cofnodion o dan sylw wedi eu disodli â thestun sy’n union yr un fath.

(4) Diwygio Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt adrodd hwn a bydd yn cymryd camau i gywiro Atodlen 2. 

(5) Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Mae rheoliad 29(b) yn dileu rheoliad 3(7)(i) o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, ond dylai ddileu rheoliad 3(7) yn llwyr. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gywiro hyn. 

(6) Cysondeb rhwng testun Cymraeg a thestun Saesneg rheoliad 13(5).

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt adrodd hwn a bydd yn cymryd camau i’w gywiro.

(7) Cysondeb rhwng testun Cymraeg a thestun Saesneg rheoliad 23(10)

Er y gallai rhywun dybio bod ychwanegu’r gair “modd” yn newid y pwyslais mewn rhyw ffordd, cred Llywodraeth Cymru fod hyn yn cyfleu’r ystyr sydd ymhlyg yn y gair “specifying”, sy’n ymddangos yn y testun Saesneg. Byddai cyfieithiad mwy llythrennol yn creu cystrawen annaturiol a chlogyrnaidd yn Gymraeg, gan wneud y testun Cymraeg yn fwy anodd ei ddarllen a’i ddeall.

Mae’r Pwyllgor wedi codi dau bwynt o ran rhinweddau. Ceir ymateb i’r ail bwynt isod.

9) Amseriad y Rheoliadau hyn

Bu gweinyddiaethau’r DU mewn cyswllt agos â’i gilydd er mwyn datblygu deddfwriaeth i orfodi Rheoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol ar draws y gadwyn bwyd-amaeth, ac o ganlyniad gwnaeth pob gweinyddiaeth gyfanswm o 5 offeryn statudol. Roedd y trafodaethau rhwng adrannau gwasanaethau cyfreithiol pob gweinyddiaeth yn parhau drwy gydol dydd Llun, 2 Rhagfyr. Yn dilyn y trafodaethau ar 2 Rhagfyr, roedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn gallu gwneud eu deddfwriaeth ar unwaith, a daeth eu rheoliadau hwy i rym ar 14 Rhagfyr. Roedd angen hyd at 15 Ionawr ar Lywodraeth Cymru er mwyn darparu’r OS (14,339 o eiriau) yn ddwyieithog (cyflwynwyd y drafft i’w gyfieithu ar 2 Rhagfyr). Roedd angen yr amser hwn i gyfieithu’r OS a chynnal y broses angenrheidiol o wirio cyfwerthedd. Yna cyflwynwyd yr offeryn ar ei union i’r Gweinidog.